Polisi Preifatrwydd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi diogelu preifatrwydd ar-lein fel y mae’n ofynnol gan ddeddfwriaeth y DU ac yn cydnabod bod preifatrwydd personol yn fater pwysig.
Mae’r Brifysgol yn rhwym i gydymffurfio â darpariaethau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018.
Bydd y manylion personol a gesglir trwy ein gwefan ac a ddarparwyd gan chi, y defnyddiwr, yn cael eu prosesu yn unol â’r ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu na masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill. Ni ddarparwn wybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol nac i unrhyw sefydliadau tebyg eraill.
Hefyd, mae’n bosibl gwneud taliadau â cherdyn credyd neu ddebyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant trwy’r wefan. Mae’r taliadau hyn yn cael eu rheoli gan gwmni e-fasnach trydydd parti ac mae ganddynt eu datganiad preifatrwydd eu hunain.