Hygyrchedd
Tîm Gwasanaethau’r We ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnal y wefan hon. Hoffem i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hyn y golygu y dylech allu gwneud y canlynol ar y rhan fwyaf o dudalennau ar ein gwefan:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau.
- Chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun arllwys oddi ar y sgrin.
- Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.Llywiwch y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’n gwefannau a’n gwasanaethau’n hollol hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gywiro’r materion hyn.
- Nid oes gan rai o’n lliwiau brand eilaidd gymhareb cyferbyniad sy’n ddigon uchel.
- Testun amgen rhai lluniau yn absennol.
- Nid yw rhai dogfennau, yn cynnwys dogfennau ar fformat PDF, yn gyflawn hygyrch eto.Nid yw rhai dogfennau, gan gynnwys dogfennau mewn fformat PDF, yn gwbl hygyrch eto.
- Mae’n anodd symud drwy rai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth o’r wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:
- E-bost: web@uwtsd.ac.uk
- Ffoniwch: 01792 481000
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn pum diwrnod gwaith.Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen pum diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r We yn web@uwtsd.ac.uk
Trefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.1.
Sut rydym yn rhoi prawf ar y Wefan hon
Rydym yn profi ein Gwefan yn barhaus, Rydym yn rhoi prawf ar ein Gwefan yn barhaus, ac rydym yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wirio ein safle:
- Profion wedi’u hawtomeiddio: rydym yn defnyddio Siteimprove, sy’n sganio ein tudalennau am wallau hygyrchedd, ac yn rhoi gwybod i ni pa rai sydd â’r flaenoriaeth uchaf i’w cywiro
- Profion â llaw: rydym yn defnyddio rhestr wirio hygyrchedd i wirio â llaw sampl cynrychiadol o dudalennau o bob rhan o’n gwefan. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod modd symud drwy ein tudalennau gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, a rhoi prawf ar unrhyw gyferbyniadau lliw nad oedd modd eu gwirio’n awtomatig.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Gorffennaf 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2022.