Polisi Cwcis

Mae’r polisi cwcis safonol ar gyfer gwefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn caniatáu pob cwci. Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i helpu darparu nodweddion penodol i’r defnyddiwr. Mae hyn yn sicrhau bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau posibl.

Os yw defnyddwyr am barhau gyda’r profiad gwefan gorau posibl, nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, os ydynt am gyfyngu neu blocio defnydd o gwcis, gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio’r gosodiadau yn y porwr gwe. Gweler hefyd “Ydy cwcis angenrheidiol?”

Beth yw Cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy’n cael eu cadw ar ddisg caled y cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan wrth i chi lywio trwy ei phageoedd. Maent yn cael eu defnyddio’n eang ac yn gyffredin i wneud gwefannau’n gweithio’n iawn ac i’w gwneud yn fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwahanol fathau o wybodaeth i berchnogion gwefannau.

Maent wedi’u dylunio i gadw swm cymedrol o ddata sy’n benodol i gleient a gwefan benodol ac mae modd eu hygyrchu naill ai gan y gweinydd gwe neu’r cyfrifiadur cleient.

Rhai o’r ffordd y caiff cwcis eu defnyddio gynnwys:

  • Cadw tudalennau diweddar a oedd y defnyddiwr wedi eu gweld

  • Adnabod unrhyw broblemau a allai fod wedi digwydd yn ystod ymweliad y defnyddiwr â’r wefan, fel y gellir datrys y problemau hynny

  • Cofio manylion cyfrif login ar gyfer cyfrifon fel Moodle a Athens, sy’n gwneud hi’n haws i’r defnyddiwr ddod o hyd i’w cyfrifon ac ymdrin â nhw

Mathau o Gwcis

Gellir grwpio cwcis mewn pedwar categori:

Cwcis hanfodol: Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn galluogi defnyddwyr i symud o gwmpas y wefan ac i ddefnyddio ei nodweddion. Heb y cwcis hyn, ni allwn ddarparu gwasanaethau fel taliadau ar-lein.

Cwcis perfformiad: Drwy ddefnyddio gwefan y Brifysgol, mae’r defnyddiwr yn cytuno y gall y brifysgol osod y mathau hyn o gwcis ar y ddyfais(au) sy’n cael eu defnyddio i ryngweithio â’r wefan. Mae’r rhain yn casglu gwybodaeth am sut mae ymwelyddion yn defnyddio gwefan, er enghraifft, pa dudalennau mae ymwelyddion yn eu edrych arnynt fwyaf, a os oes gwall wedi digwydd ar dudalen. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n adnabod ymwelydd. Mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw’n ddienw ac yn cael ei defnyddio dim ond i wella sut mae gwefan yn gweithio.

Cwcis swyddogaeth: Mae’r rhain yn cefnogi defnydd y safle ac yn galluogi nodweddion gwell a phersonol. Mae rhai o’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r defnyddiwr i symud o gwmpas y wefan heb wynebu unrhyw broblemau.

Cwcis targedu: Mae cwcis targedu yn cael eu defnyddio i ddarparu hysbysebion sy’n berthnasol i’r defnyddiwr a’u diddordebau. Fe’u gosodir fel arfer gan rwydweithiau hysbysebu (gyda chaniatâd y gweinyddwr y wefan). Maent yn cofnodi’r defnyddwyr sydd wedi ymweld â gwefan ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill fel hysbysebwyr. Yn aml, bydd cwcis targedu yn cael eu cysylltu â nodweddion gwefan a ddarperir gan y sefydliad arall. Nid yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio cwcis targedu.

Mae’r tri math cyntaf o gwcis yn y rhestr uchod yn cael eu defnyddio er mwyn i’r wefan gofio’r dewisiadau y mae’r defnyddiwr yn eu gwneud (fel enw defnyddiwr, iaith neu’r rhanbarth y mae’r defnyddiwr yn ei fod) ac i ddarparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, gall gwefan ddarparu adroddiadau tywydd lleol neu newyddion traffig drwy osod cwci sy’n nodi’r rhanbarth y mae’r defnyddiwr yn bresennol ynddo. Gellir defnyddio’r cwcis hyn hefyd i gofio newidiadau a wnaed i faint y testun, ffontiau ac adrannau eraill o dudalennau gwe sy’n gallu cael eu haddasu. Gellir anonymïo’r wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu; ni allant olrhain gweithgaredd pori ar wefannau eraill.

Ydy cwcis angenrheidiol?

Ydy ac Nac ydy – yn dibynnu ar ba wefannau rydych yn eu defnyddio!

Defnydd o Gwcis gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r polisi cwcis safonol ar gyfer gwefan y Brifysgol yn caniatáu pob cwci.

Mae preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig iawn i’r Brifysgol, felly nid ydym yn defnyddio cwcis i gadw neu rannu unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr.

Diddymu Cwcis

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio cwcis i wella’r profiad ar-lein.

Bydd diddymu cwcis wrth ddefnyddio gwefan UWTSD yn golygu na fyddwch yn gallu mwynhau ac elwa llawn ar nodweddion a gwasanaethau gwefan y Brifysgol.

Mae’n bwysig nodi y bydd rhai gwasanaethau y mae’r Brifysgol yn eu darparu yn gofyn am gwcis i weithio. Os caiff y gosodiadau eu cynllunio i atal cwcis, mae’n debyg y na fyddwch yn gallu mewngofnodi i wasanaethau fel Moodle, MyTSD a gwasanaethau eraill sy’n defnyddio cwcis fel rhan o’r broses dilysu.

Mae mwy o wybodaeth am reoli cwcis ar gael yn All About Cookies.

Os hoffech gyfyngu neu flocio cwcis sy’n cael eu gosod gan wefan, gellir gwneud hyn trwy newid gosodiadau’r porwr. Gall y rhan fwyaf o borwyr gael eu cynllunio i wrthod cwcis, neu i roi rhybudd cyn iddynt gael eu derbyn gan gyfrifiadur. Dylai’r swyddogaeth cymorth yn y porwr nodi sut i’w sefydlu i wrthod cwcis neu i roi rhybudd i’r defnyddiwr pan gaiff y rhain eu defnyddio.

Fodd bynnag, gyda hynny’n cael ei ddweud, mae cwcis yn gallu cael eu manteisio: mewn llawer o achosion, maent yn gwella’r profiad defnyddiwr ar-lein.

Defnydd o Gwcis gan UWTSD

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel arfer yn gwneud defnydd o’r cwcis sy’n disgyn i’r categorïau canlynol:

  • Cwcis hanfodol (gan gynnwys rhai cwcis sesiwn)

  • Cwcis perfformiad

  • Cwcis swyddogaeth (Sesiwn)

  • Defnydd o gwcis targedu fydd dim ond mewn amgylchiadau eithriadol. Wrth ddefnyddio cwcis targedu, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio cael caniatâd cyn eu gosod ar ddyfais.

Google Analytics

Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelyddion yn defnyddio ein safle. Mae’r brifysgol yn defnyddio’r wybodaeth hon i gasglu adroddiadau ac i helpu i wella’r safle. Mae enghreifftiau o’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys nifer y ymwelyddion i’r safle, y ddolen a ddefnyddiodd ymwelyddion i gyrraedd ein gwefan, a’r tudalennau y buont yn ymweld â nhw.

Caiff yr wybodaeth ei chasglu ac ei chadw’n ddienw. Ewch i bolisi preifatrwydd Google am wybodaeth ychwanegol. Mae gan Google ychwanegiad porwr sy’n atal Google Analytics rhag casglu data.

Scroll to Top